Elusen dementia a cherddoriaeth yw Playlist for Life. Sefydlwyd yr elusen yn 2013 gan yr awdur a’r darlledwr Sally Magnusson yn dilyn marwolaeth ei mam, Mamie, oedd yn dioddef o dementia. Mae ein gweledigaeth yn un syml: rydym am weld bod gan bawb sydd yn byw gyda dementia restr chwarae unigryw a phersonol a bod pawb sydd yn eu caru neu’n gofalu amdanyn nhw, yn gwybod sut i’w ddefnyddio.
Buddion rhestrau chwarae personol
Mae mwy na dwy ddegawd o ymchwil wyddonol wedi dangos y gall gwrando ar restr chwarae bersonol wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia. Mewn gwirionedd, mae gan wrando ar gerddoriaeth ag ystyr personol iawn lawer o fuddion seicolegol, gan olygu gall unrhyw un elwa o restr chwarae. Gall rhestrau chwarae personol:
- leihau gorbryder
- gwella eich hwyliau
- gwneud tasgau anodd yn haws i’w cwblhau
- hel atgofion sy’n gallu helpu teuluoedd a gofalwyr i gysylltu.
Mae Playlist for Life yn manteisio ar effeithiau pwerus cerddoriaeth bersonol i helpu unrhyw un y mae dementia yn effeithio arno, ei deulu a’i ofalwyr. Boed yn gerddoriaeth dawns gyntaf, hwiangerddi o blentyndod neu arwyddgan hoff sioe deledu, mae gan gerddoriaeth y gallu i’n cludo’n ôl i amseroedd a fu a’n hatgoffa o’n gorffennol, gan roi ymdeimlad o ôl-fflach i ni. Gall rhannu eich caneuon a’ch atgofion helpu pobl sy’n byw gyda dementia gysylltu â theulu, ffrindiau a gofalwyr.
Dechrau Arni
Mae cerddoriaeth ym mhobman ac mae’n rhan o’n bywydau beunyddiol. Mae eich rhestr chwarae mor unigryw â chi eich hun, felly dylai eich rhestr chwarae gynnwys cerddoriaeth sy’n bersonol ac sy’n hel atgofion pleserus neu ymatebion emosiynol cadarnhaol. Fe ddylai gynnwys y tonau hynny sydd yn rhoi’r ymdeimlad hynny o ‘ôl-fflach’ pryd bynnag fyddwch chi’n eu clywed; sydd yn eich cludo’n ôl, i gyfnod, person neu le gwahanol. Gyda’i gilydd mae’r gerddoriaeth yn creu trac sain eich bywyd.
Mae dechrau arni mor rhwydd â gwrando ar gerddoriaeth neu ganu. A oes caneuon sy’n sbarduno atgofion? Gwnewch nodyn ohonyn nhw. Rydych chi eisoes ar ben ffordd i greu eich rhestr chwarae bersonol chi!
I greu rhestr chwarae bersonol, mae angen i ni ddod o hyd i’r tonau hynny sydd yn arbennig i ni a’u rhoi nhw mewn un man. Gall eich rhestr chwarae fod yn hir neu’n fyr. Gellir ei ysgrifennu ar ddarn o bapur. Gellir ei recordio ar dâp cymysg neu ei wneud ar gyfrifiadur gyda rhaglen tebyg i Spotify neu iTunes.
Byddwch cystal â lawr-lwytho un o’n hadnoddau am ddim fydd yn eich helpu chi ar bob cam o’ch taith i greu rhestr chwarae: o ddod o hyd i ganeuon i ddefnyddio cerddoriaeth yn effeithiol a chynnwys rhestr chwarae mewn trefn feunyddiol.
Adnoddau
PDF Taflen Dechrau Arni (fersiwn ddigidol rhyngweithiol) Darganfyddwch fuddion rhestrau chwarae wedi’u personoli a sut i gysylltu drwy gerddoriaeth
Rhestrau Chwarae Spotify Mae ein rhestrau chwarae Spotify yn cynnwys ystod eang o themâu a gellir gwrando arnyn nhw am ddim
PDF Llyfryn Trac Sain eich oes (fersiwn digidol rhyngweithiol) Yr arf perffaith i ddechrau arni gyda rhestr chwarae
PDF Dechrau Sgwrs (fersiwn digidol rhyngweithiol) Mae’n dweud wrthych i ddechrau adeiladu eich rhestr chwarae bersonol